-->

Croeso i wefan Eglwys y Santes Fair, Aberystwyth

Eglwys y Santes Fair yw eglwys Gymraeg Plwyf Aberystwyth. Bydd rhyw 30-40 o oedolion yn addoli’n gyson yn Eglwys y Santes Fair. Yn ogystal bydd rhyw 15-20 o blant a phobl ifainc yn dod i’r Ysgol Sul. Fel rhan o blwyf Aberystwyth mae Eglwys y Santes Fair yn rhannu gweiniodgion gydag Eglwys S. Mihangel. Rheithor y plwyf yw’r Parchg Ganon Stuart Bell, a’r ficer yw’r Parchg Andy Herrick.

Mae cynulleidfa Eglwys y Santes Fair bob amser yn groesawgar ac yn falch o gyfarfod â phobl newydd. Felly os ydych chi’n symud i Aberystwyth, yn astudio yma, neu dim ond ar ymwelaid, cofiwch alw heibio i’n gweld ni. Ceir manylion ein gwasanaethau ar y wefan ynghyd â manylion ar sut i gysylltu gyda ni.

Yr ydym yn edrych ymlaen i’ch gweld!

Criw y Santes Fair ar y encil flynyddol ym Mhlas Dolau, 2008-04-26