Taflen newyddion 2008-03-30
PLWYF ABERYSTWYTH
Eglwys S. Mair
Pasg2 / 30 Mawrth 2008
CWRDD GWEDDI: Pob dydd Llun heblaw am wyliau’r banc yn yr eglwys rhwng 1 a 1.30.
CYMORTH CRISTNOGOL: Cinio bara a chaws am 12:00 -1:30pm ddydd Llun 7 Ebrill yng Nghanolfan S Paul.
BORE COFFI: 10:00 - 12:00 ar 12 Ebrill yn y Rheithordy. Bydd stondin gacennau a bydd […]
Nos Sul y Pasg 2008
2008-03-23 Fel arfer gyda’r nos bydd gwasanaeth yr Hwyrol Weddi yn cael ei gynnal yn Eglwys y Santes Fair am 6.00pm. Ond am ei bod hi’n Basg fe gafwyd trefn ychydig yn wahanol i’r diwrnod. Yn lle dod am 6.00pm fe ddaeth y rhan fwyaf ynghyd erbyn 4.00pm er mwyn cael te parti i ddathlu’r […]
Dydd y Pasg 2008
2008-03-23 Roedd teimlad o ŵyl go iawn yn Eglwys y Santes Fair ddathlu Dydd y Pasg gyda Chymun Teuluol. Daeth rhieni, plant ac eraill ynghyd ar gyfer gweinyddiad o’r Cymun Bendigaid. Arweiniwyd y gwasanaeth gan y Parchg Ganon Stuart Bell ac fe draddododd sgwrs am bwysigrwydd y gadwyn o dystiolaeth yng nghyd-destun atgyfodiad Iesu a’r […]
Addurno’r eglwys gogyfer y Pasg
Mae’n arfer gan yr aelodau addurno adeilad Eglwys y Santes Fair ar gyfer Dydd y Pasg. Fel arfer bydd blodau yn cael eu gosod ym mhob man posib. Fore Sadwrn, 21 Mawrth 2008, daeth criw bach at ei gilydd i addurno’r eglwys eleni. Ac wedi gwneud y gwaith caled cafwyd paned o de a bynsen! […]
Dydd Gwener y Groglith
2008-03-21 Dydd Gwener y Groglith fe fu aelodau Eglwys y Santes Fair yn rhan o weithgaredd ar y cyd gydag eglwysi a chapeli eraill Aberystwyth. Am 10 o’r gloch cynhaliwyd gwasanaeth Cymraeg ar gyfer y Groglith yng Nghanolfan Fethodistaidd S Paul. Gwasanaeth o ddarlleniadau ac emynau oedd hwn. Daeth y gwasanaeth i ben wrth i’r […]
Dydd Mercher yr Wythnos Fawr
2008-03-19 Yn ystod yr Wythnos Fawr bydd gwasanaeth bob nos o’r wythnos yn arwain at Ddydd Gwener y Groglith. Nos Fercher cynhelir gwasanaeth y plwyf yn Eglwys y Santes Fair. Fel arfer bydd siaradwr gwadd yn annerch yn y gwasanaethau hyn. Eleni y siaradwr oedd yr Hybarch Andy John, Archddiacon Ceredigion ond a fu’n ficer […]
Neges y Rheithor ar gyfer yr Wythnos Fawr a’r Pasg 2008
Mae llyfr sydd newydd ei gyhoeddi gyda’r teitl ‘Pam y Pasg?’ yn dechrau gyda’r geiriau, ‘Petai’n bosib i chi gwrdd ag unrhyw un o’r gorffennol a holi unrhyw gwestiwn, pwy fuasech chi am gwrdd â nhw a beth fuasech chi’n gofyn iddyn nhw? Pan ofynnwyd hyn i’r Athro Joad, Athro […]
Gwasanaethau’r Wythnos Fawr
EGLWYS Y SANTES FAIR
GWASANAETHAU’R WYTHNOS FAWR A’R PASG 2008
Dydd Llun 17 Mawrth
7.00: Gwasanaeth yn Eglwys Llanychaearn
Thema a siaradwr gwadd o Ddydd Llun tan Ddydd Iau
‘Y Groes: trwy lygaid y gwyliwr’
Siaradwr: Yr Hybarch Andy John
Dydd Mawrth 18 Mawrth
7.00: Gwasanaeth yn Eglwys y Santes Ann
Dydd […]
Sul y Fam
Dydd Sul oedd y Pedwerydd Sul yn y Garawys ac yn draddodiadol cyfeirir at hwnnw fel Sul y Fam. Does neb yn rhy siŵr pam fod y traddodiad hwnnw wedi codi; mae’r gweddïau a’r darlleniadau yn cyfeirio deulu’r eglwys ond does neb yn si?r ai dyna’r rheswm dros hyn, ynteu fel canlyniad i’r traddodiad y […]
Dathlu Gŵyl Dewi
Gyda’r nos yn dilyn ei harfer cynhaliodd Eglwys y Santes Fair swper Agape i ddathlu G?yl Dewi sef cyfuniad o bryd o fwyd gyda gwasanaeth y Cymun Bendigaid. Mae hyn wedi dod yn dipyn o draddodiad bellach, ac mae’n ffordd arbennig iawn o gymuno ac o rannu cymdeithas o fewn i deulu’r eglwys. Eleni fe […]