Dathlu Gŵyl Dewi

Gyda’r nos yn dilyn ei harfer cynhaliodd Eglwys y Santes Fair swper Agape i ddathlu G?yl Dewi sef cyfuniad o bryd o fwyd gyda gwasanaeth y Cymun Bendigaid. Mae hyn wedi dod yn dipyn o draddodiad bellach, ac mae’n ffordd arbennig iawn o gymuno ac o rannu cymdeithas o fewn i deulu’r eglwys. Eleni fe siaradodd y rheithor, Stuart Bell, am un o egwyddorion Dewi Sant sef ‘gwneud y pethau bychain’ – geiriau pregeth olaf Dewi os ydym i dderbyn traddodiad ei fuchedd. Yn ei sgwrs dangosodd y rheithor sut mae’n bosib cyflawni pethau mawr iawn dros Dduw o wneud yn si?r ein bod yn gwneud y pethau bychain. Trefnwyd y pryd bwyd gan Miss Gwen Day. Noson hyfryd iawn.

Swper Agape

Rhagor o luniau o’r noson.