Sul y Fam
Dydd Sul oedd y Pedwerydd Sul yn y Garawys ac yn draddodiadol cyfeirir at hwnnw fel Sul y Fam. Does neb yn rhy siŵr pam fod y traddodiad hwnnw wedi codi; mae’r gweddïau a’r darlleniadau yn cyfeirio deulu’r eglwys ond does neb yn si?r ai dyna’r rheswm dros hyn, ynteu fel canlyniad i’r traddodiad y digwyddodd hyn. Does dim llawer o ots bellach beth yn union oedd y rheswm amdano gan fod y Sul yn cael ei ddefnyddio fel cyfle i deuluoedd ddod i’r eglwys gyda’i gilydd. Y tro hwn roedd rhai wedi cael y syniad o gael cacen arbennig ar gyfer y diwrnod i’w rhannu ar ddiwedd y gwasanaeth pan mae’n arfer gennym i gael paned a sgwrs yn Eglwys y Santes Fair. Siaradodd y rheithor gan gymharu gofal a chariad mam neu dad at eu plant i gariad Duw at ei bobol. Fel man cychwyn fe wnaeth sôn am y gofal sy gan bengwiniad (yn dadau ac yn famau) dros eu cywion a dyna sy’n esbonio’r llun o bengwiniaid a ddefnyddiodd wrth siarad!
