Neges y Rheithor ar gyfer yr Wythnos Fawr a’r Pasg 2008

Y Parchg Ganon Stuart Bell, Rheithor Plwyf Aberystwyth

Mae llyfr sydd newydd ei gyhoeddi gyda’r teitl ‘Pam y Pasg?’ yn dechrau gyda’r geiriau, ‘Petai’n bosib i chi gwrdd ag unrhyw un o’r gorffennol a holi unrhyw gwestiwn, pwy fuasech chi am gwrdd â nhw a beth fuasech chi’n gofyn iddyn nhw? Pan ofynnwyd hyn i’r Athro Joad, Athro Athroniaeth ym Mhrifysgol Llundain, dyn nad oedd yn Gristion, ei ateb oedd, ‘Hoffwn i gwrdd ag Iesu Grist a gofyn y cwestiwn pwysicaf yn y byd iddo, a wnes ti godi o’r bedd neu beidio?’

Yn sicr, dyma gwestiwn o’r pwys mwyaf y mae’n rhaid cael ateb iddo unwaith am byth. Os daw’r ateb yn ôl, ‘Naddo, wnes i ddim codi o’r bedd’, mi allwn anghofio yn llwyr am Iesu Grist a mynd ymlaen i chwilio am ystyr i’n bywydau rhywle arall.

Ond os yr ateb yw ‘Do, mi wnes i godi o’r bedd’, yna mae’r canlyniadau yn ddigon i newid ein bywydau’n llwyr am mynnu sylw gan bawb sydd byw ar wyneb daear.

Os cododd Iesu o’r bedd, mae’n wir ei fod yn Fab i’r Duw byw, a chanddo ef y mae’r awdurdod terfynol ar bethau ysbrydol a phethau moesol. Does dim dadlau gydag ef.

Os cododd Iesu o’r bedd, mae ganddo bethau i’w dysgu i ni am Dduw, am y byd, am fywyd, am farwolaeth, am y presennol, am y dyfodol, am foesoldeb, am y ffaith ein bod yn atebol i Dduw a llawer, llawer mwy.

Os cododd Iesu o’r bedd, mae’n rhaid gwrando arno ef yn fwy na neb arall sydd wedi byw erioed.

Os cododd Iesu o’r bedd, mae’n bosib ei adnabod ef. Dyna beth yw calon y ffydd Gristnogol.

Dewch i ddathlu’r atgyfodiad gyda ni ar Sul y Pasg.

Pasg llawen iawn i chi.

Stuart