Dydd Mercher yr Wythnos Fawr
2008-03-19 Yn ystod yr Wythnos Fawr bydd gwasanaeth bob nos o’r wythnos yn arwain at Ddydd Gwener y Groglith. Nos Fercher cynhelir gwasanaeth y plwyf yn Eglwys y Santes Fair. Fel arfer bydd siaradwr gwadd yn annerch yn y gwasanaethau hyn. Eleni y siaradwr oedd yr Hybarch Andy John, Archddiacon Ceredigion ond a fu’n ficer yn y plwyf gyda gofal Eglwys y Drindod Sanctaidd. Arweiniwyd y gwasanaeth gan Andy arall, sef y Parchg Andy Herrick. Fe wnaeth yntau a grŵp cerdd yr eglwys gyfeilio ar gyfer y caneuon mawl. Darllenwyd y llithoedd gan Menna Phillips ac Ann McKnight ac arweiniwyd y gweddïau gan Wini Davies. Wedi’r gwasanaeth fe wnaeth nifer o’r gynulleidfa aros ar gyfer sgwrs dros baned.
