Dydd Gwener y Groglith

2008-03-21 Dydd Gwener y Groglith fe fu aelodau Eglwys y Santes Fair yn rhan o weithgaredd ar y cyd gydag eglwysi a chapeli eraill Aberystwyth. Am 10 o’r gloch cynhaliwyd gwasanaeth Cymraeg ar gyfer y Groglith yng Nghanolfan Fethodistaidd S Paul. Gwasanaeth o ddarlleniadau ac emynau oedd hwn. Daeth y gwasanaeth i ben wrth i’r gynulleidfa ganu emyn William Williams, Pantycelyn ‘O iachawdwriaeth gadarn’. Dyma’r pennill olaf a ganwyd gennym,

O ras di-drai, diderfyn,
tragwyddol ei barhad;
yng nghlwyfau’r Oen fu farw
yn unig mae iachâd:
iachâd oddi wrth euogrwydd,
iachâd o ofnau’r bedd;
a chariad wedi ei wreiddio
ar sail tragwyddol hedd.

Aelodau Eglwys y Santes Fair ar orymdaith Gwener y Groglith

Wedi’r gwasanaeth fe aethom i gyd i ymuno gyda Christnogion eraill tref Aberystwyth i orymdeithio trwy’r Stryd Fawr o Dŵr y Cloc hyd at Sgwâr Owain Glyn Dŵr fel rhan o’n tystiolaeth i farw aberthol Iesu dros bechodau’r holl fyd. Fel arfer mae’r stryd yn llawn ymwelwr, ond heddiw roedd y tywydd yn eu cadw draw. Ar ddechrau’r orymdaith darllenwyd darn allan o broffwydoliaeth Eseia am y gwas dioddefus ac ar ddiwedd yr orymdaith canwyd dau emyn ac fe wnaeth Major Ray Hobbins o Fyddin yr Iachawdwriaeth gyhoeddi’r newyddion da. Daeth yr orymdaith i ben wrth i’r Parchg Ganon Stuart Bell offrymu gweddi dros dref Aberystwyth a’i thrigolion.

Major Ray Hobbins yn cyhoeddi'r efengyl