Addurno’r eglwys gogyfer y Pasg
Mae’n arfer gan yr aelodau addurno adeilad Eglwys y Santes Fair ar gyfer Dydd y Pasg. Fel arfer bydd blodau yn cael eu gosod ym mhob man posib. Fore Sadwrn, 21 Mawrth 2008, daeth criw bach at ei gilydd i addurno’r eglwys eleni. Ac wedi gwneud y gwaith caled cafwyd paned o de a bynsen! Roedd yr eglwys yn edrych yn hyfryd wrth adael, yn edrych yn berffaith ar gyfer y dathliadau yn y bore.
