Dydd y Pasg 2008
2008-03-23 Roedd teimlad o ŵyl go iawn yn Eglwys y Santes Fair ddathlu Dydd y Pasg gyda Chymun Teuluol. Daeth rhieni, plant ac eraill ynghyd ar gyfer gweinyddiad o’r Cymun Bendigaid. Arweiniwyd y gwasanaeth gan y Parchg Ganon Stuart Bell ac fe draddododd sgwrs am bwysigrwydd y gadwyn o dystiolaeth yng nghyd-destun atgyfodiad Iesu a’r modd y mae’r gadwyn honno wedi ymestyn atom ni heddiw a’n bod ninnau yn ddolenni ynddi. Arweiniwyd y canu gan Aeron ar yr organ a gan y grŵp cerdd. Cyn cloi’r gwasanaeth dosbarthwyd anrhegion o wyau Pasg i blant a phobl ifanc yr Ysgol Sul. Wedi’r gwasanaeth roedd gwahoddiad i bawb aros am sgwrs dros baned. Roedd hi’n dda iawn gweld rhai ffrindiau wedi dod atom i ddathlu’r Pasg, gan gynnwys mam Wini, mam Barbara a Ros.



