Nos Sul y Pasg 2008
2008-03-23 Fel arfer gyda’r nos bydd gwasanaeth yr Hwyrol Weddi yn cael ei gynnal yn Eglwys y Santes Fair am 6.00pm. Ond am ei bod hi’n Basg fe gafwyd trefn ychydig yn wahanol i’r diwrnod. Yn lle dod am 6.00pm fe ddaeth y rhan fwyaf ynghyd erbyn 4.00pm er mwyn cael te parti i ddathlu’r ŵyl. Roedd rhyw 20 ohonom wedi dod ynghyd i fwynhau cymdeithas gyda’n gilydd a phaned o de i’n cynhesu yn wyneb y gwynt a’r glaw tu fas! Wedi’r te fe gafwyd gwasanaeth arbennig o Fawl y Pasg – roedd hwn yn wasanaeth arbennig o ddarlleniadau, caneuon ac emynau. Yn ystod y gwasanaeth pregethwyd gan un o ddarllenwyr lleyg yr eglwys, sef Miss Gwen Day. Ei phwnc hi oedd arwyddocâd y digwyddiad hwnnw yn hanes y croeshoeliad pan rwygwyd llen y Deml o’r top i’r gwaelod. Yn awr, yn hytrach na chael ein cadw allan o bresenoldeb Duw, fel y bwriadwyd y llen i’w wneud, y mae Iesu wedi agor ffordd inni ddod at Dduw. Diweddglo teilwng iawn i ddiwrnod o ddathlu.
