Taflen newyddion 2008-03-30

PLWYF ABERYSTWYTH

Eglwys S. Mair

Pasg2 / 30 Mawrth 2008

CWRDD GWEDDI: Pob dydd Llun heblaw am wyliau’r banc yn yr eglwys rhwng 1 a 1.30.

CYMORTH CRISTNOGOL: Cinio bara a chaws am 12:00 -1:30pm ddydd Llun 7 Ebrill yng Nghanolfan S Paul.

BORE COFFI: 10:00 – 12:00 ar 12 Ebrill yn y Rheithordy. Bydd stondin gacennau a bydd y wardeniaid yn barod iawn i dderbyn cynigion o roddion tuag ati.

GWASANAETH YSBYTY: Tro Eglwys y Santes Fair yw hi i gynnal gwasanaeth yn yr ysbyty ddydd Sul nesaf, 6 Ebrill am 3pm. Croeso i chi ddod i rannu yn yr addoliad.

PRIODAS AUR: Llongyfarchiadau i Beryl a Hefin Jones a fydd yn dathlu eu pen-blwydd priodas aur ar Ebrill 5ed.

CODI ARIAN I MOCHIPAPA: Cawl, rol a chacen yn Neuadd y Plwyf am 12:30pm ddydd lau 3 Ebrill i godi arian at adeiladu ysgol ym Mochiapapa (Zambia). Andy Herrick yn siarad. £3. Tocynnau oddi wrth Gwen. Os nad ydych yn gallu dod, beth am brynu tocyn? Diolch.

ACT FAST: Yn dilyn yr ympryd carbon yn ystod y Garawys, mae Tearfund yn gofyn i ni weddïo dros Fesur Seneddol cryfach yngl?n a newid hinsawdd, ac yn ein hannog i anfon cerdyn post at ein Aelod Seneddol. Mae cardiau Act Fast yng nghefn yr eglwys – neu gofynnwch i Siôn. Rhowch wybod i Siôn hefyd pe hoffech fynd i gynhadledd Tearfund yn Llandrindod ar 17 Mai.

HEDDIW
Gwasanaethau
8:00 Cymun Bendigaid
9.30 Cwrdd Gweddi
10.00 Boreol Weddi
6.00 Gwasanaeth yn Eglwys S Paul

Llithoedd: 10:00 Mairwen Williams

SUL NESAF 6 Ebrill: Pasg 3

Gwasanaethau
8:00 Cymun Bendigaid
9:30 Cwrdd Gweddi
10.00 Boreol Weddi
11:20 Ysgol Sul
3:00 Gwasanaeth yn yr Ysbyty
6:00 Grym Mawl

Llithoedd: 10:00 Robert Davies

Blodau: Menna Phillips

Coffi Grym Mawl: Eiddwen ac Ann

Anfonwch unrhyw gyhoeddiad at Sion ar 01970 880276 neu sionmeredith1@btinternet.com erbyn nos Wener.