Taflen newyddion 2008-04-06

PLWYF ABERYSTWYTH

Eglwys S. Mair

Pasg 3 / 6 Ebrill 2008

CWRDD GWEDDI: Pob dydd Llun heblaw am wyliau’r banc yn yr eglwys rhwng 1 a 1.30.

CYMORTH CRISTNOGOL: Cinio bara a chaws am 12:00 -1:30pm ddydd Llun 7 Ebrill yng Nghanolfan S Paul.

BORE COFFI: 10:00 – 12:00 ar 12 Ebrill yn y Rheithordy. Bydd stondin gacennau a bydd y wardeniaid yn barod iawn i dderbyn cynigion o roddion tuag ati.

GWASANAETH YSBYTY: Tro Eglwys y Santes Fair yw hi i gynnal gwasanaeth yn yr ysbyty heddiw am 3pm. Croeso i chi ddod i rannu yn yr addoliad.

ACT FAST: Yn dilyn yr ympryd carbon yn ystod y Garawys, mae Tearfund yn gofyn i ni weddïo dros Fesur Seneddol cryfach yngl?n a newid hinsawdd, ac yn ein hannog i anfon cerdyn post at ein Aelod Seneddol. Mae cardiau Act Fast yng nghefn yr eglwys – neu gofynnwch i Siôn. Rhowch wybod i Siôn hefyd pe hoffech fynd i gynhadledd Tearfund yn Llandrindod ar 17 Mai.

HEDDIW
Gwasanaethau
8:00 Cymun Bendigaid
9.30 Cwrdd Gweddi
10.00 Boreol Weddi
11.00 Cyfarfod Blynyddol
11.20 Ysgol Sul
3.00 Gwasanaeth yn yr Ysbyty
6.00 Grym Mawl

Llithoedd: 10:00 Robert Davies
Coffi Grym Mawl: Eiddwen ac Ann

SUL NESAF 13 Ebrill: Pasg 4

Gwasanaethau
9:30 Cwrdd Gweddi
10.00 Cymun Bendigaid
11:20 Ysgol Sul
6.00 Hwyrol Weddi

Llithoedd: 10:00 Rolant Elis; 6.00: Tomi Morgan

Blodau: Enid Hughes

Anfonwch unrhyw gyhoeddiad at Sion ar 01970 880276 neu sionmeredith1@btinternet.com erbyn nos Wener.