Adroddiad o’r encil 2008-04-26
Ddydd Sadwrn 26 Ebrill 2008 cynhaliwyd encil flynyddol Eglwys y Santes Fair ym Mhlas Dolau, Gelli Angharad, ger Llanbadarn Fawr. Daeth rhyw ugain o oedolion a phlant ynghyd ar gyfer yr encil. Arweinydd yr encil yr oedolion eleni oedd y Parchg Peter James. Arweiniwyd encil y plant a’r bobl ifanc gan Gwenda.
Mae Peter yn gyn-reithor plwyf Botwnnog ym Mhen Ll?n a’i themâu ar gyfer yr encil oedd arwyddocâd y Pasg cyntaf yn yr Aifft, Pasg atgyfodiad Iesu, a Phasg y Cymun Bendigaid i’r Cristion. Ystyriodd y tri Phasg hyn yng nghyd-destun profiad y Cristion o faddeuant, bywyd newydd a gobaith.
Daeth yr encil i glo gyda gweinyddiad o’r Cymun Benidgaid.
Diolchwyd i Peter ar ddiwedd yr encil gan y Parchg Ganon Stuart Bell.
