Taflen gyhoeddiadau 2008-06-01
CWRDD GWEDDI: Pob dydd Llun heblaw am wyliau’r banc yn yr eglwys rhwng 1 a 1.30.
TRWM EICH CLYW? Os oes gennych chi glywedydd (hearing aid) gyda T-setting fe allwch ei osod ar y T er mwyn mwyn manteisio ar yr induction loop newydd yn yr eglwys. Mae’r system induction loop yn help i’r rhai trwm [...]
Casgliad Myanmar
Fore Sul nesaf, 2008-05-18, wrth adael y Gwasanaeth i Deulu’r Eglwys am 10.00am, cynhelir casgliad arbennig ar gyfer cynorthwyo dioddefwyr yn sgil y seiclon yn Myanmar (Burma).
Rhagor o newyddion am ymateb Tearfund i seiclon Mynamar.
Dathlu’r Pentecost 2008
Dathlwyd Gŵyl y Pentecost yn Eglwys y Santes Fair gyda gwasanaeth y Cymun Bendigaid am 10.00am gyda’r Parchg Ganon Stuart Bell yn llywyddu. Wedyn, yn y prynhawn am 4.30pm daeth nifer o’r aelodau at ei gilydd ar gyfer te rhoi a rhannu yn yr eglwys fel rhan o’r dathliadau. Roedd hyn yn gyfle i gymdeithasu [...]
20 mlynedd o weinidogaeth
Ar ddechrau gwasanaeth y Foreol Weddi yn Eglwys y Santes Fair ddydd Sul 4 Mai 2008 nodwyd ugain mlynedd o weinidogaeth y Parchg Ganon Stuart Bell fel rheithor Aberystwyth mewn defod syml. Sefydlwyd Stuart fel rheithor ddechrau Mai 1988 yn dilyn cyfnod fel ficer yn Henfynyw ac Aberaeron a chyn hynny yn Llangeler. Ei ragflaenydd [...]
Wythnos Cymorth Cristnogol 11-17 Mai 2008
Thema Wythnos Cymorth Cristnogol 2008 yw ‘Galluogi pobl’. Dyma hanes o Bangladesh sy’n dangos beth yw ystyr hynny.
Mae diffyg dŵr glân yn broblem ym mhob rhan o Bangladesh.
Mewn un pentref roedd Rekha Biswas, gwraig leol 29 mlwydd oed, eisiau gwella’r sefyllfa.
Ar ôl lobïo’n gyson am flwyddyn Llwyddodd i gael pob teulu yn y pentref i [...]
Dydd Iau’r Dyrchafael 2008
Nos Lun, 28 Ebrill 2008, cynhaliwyd gwasanaeth i sefydlu y Parchg Ian Girling yn ficer tîm ym mhlwyf Aberystwyth yn Eglwys y Drindod. Fel digwyddiad i’r plwyf i gyd yr roedd nifer o aelodau Eglwys y Santes Fair yn bresennol gyda Lyn Lewis Dafis o’r eglwys yn darllen yn Gymraeg. Tridiau yn ddiweddarach cafwyd cyfle [...]