Dydd Iau’r Dyrchafael 2008
Nos Lun, 28 Ebrill 2008, cynhaliwyd gwasanaeth i sefydlu y Parchg Ian Girling yn ficer tîm ym mhlwyf Aberystwyth yn Eglwys y Drindod. Fel digwyddiad i’r plwyf i gyd yr roedd nifer o aelodau Eglwys y Santes Fair yn bresennol gyda Lyn Lewis Dafis o’r eglwys yn darllen yn Gymraeg. Tridiau yn ddiweddarach cafwyd cyfle i groesawu’r Parchg Ian Girling i Eglwys y Santes Fair wrth iddo bregethu mewn gwasanaeth arbennig o’r Cymun Bendigaid i ddathlu Dydd Iau’r Dyrchafael. Daeth cynulleidfa dda ynghyd o’r pum eglwys yn y plwyf ar gyfer y dathliad. Y llywydd yn y Cymun oedd y rheithor, y Parchg Ganon Stuart Bell, ac arweiniwyd yr addoliad gan y ficer, y Parchg Andy Herrick.
Roedd hi’n dda cael croesawu Ian i’r eglwys. Er mai Sais yw Ian mae’n eiddgar i ddysgu Cymraeg a gobeithio y bydd yn dysgu digon i fedru llywyddu yng ngwasanaeth cynnar y Cymun Bendigaid yn Eglwys y Santes Fair heb fod yn rhy bell yn y dyfodol.
