Wythnos Cymorth Cristnogol 11-17 Mai 2008

Thema Wythnos Cymorth Cristnogol 2008 yw ‘Galluogi pobl’. Dyma hanes o Bangladesh sy’n dangos beth yw ystyr hynny.

Mae diffyg dŵr glân yn broblem ym mhob rhan o Bangladesh.

Mewn un pentref roedd Rekha Biswas, gwraig leol 29 mlwydd oed, eisiau gwella’r sefyllfa.

Ar ôl lobïo’n gyson am flwyddyn Llwyddodd i gael pob teulu yn y pentref i ymuno â’r Pani Parishad, cyngor dŵr y pentref.

Trwy’r pani parishad dysgodd pobl sut i gasglu dŵr glaw gan ddefnyddio tanciau syml a photiau, sy’n rhoi cyflenwad o dd?r glân ì’r gymuned ar gyfer yfed a golchi. Gyda chymorth mudiad sy’n bartner i Cymorth Cristnogol, Canolfan Astudiaethau Pellach Bangladesh (BCAS), mae’r pani parishads yn darparu fforwm i gymunedau ledled Bangladesh i ddatrys eu problemau.

Fel y dywed Rekha wrth bobl: ‘Os dônt at ei gilydd, gallant gyflawni pethau fyddai’n amhosibl iddynt eu gwneud ar eu pen eu hunain’.

A ydych yn barod i roi, i weithredu ac i weddïo er mwyn brwydro yn erbyn tlodi’r byd ar y cyd â Chymorth Cristnogol?

Ceir manylion am ddigwyddiadau sy’n gysylltiedig gyda’r wythnos yng nghalendr digwyddiadau Eglwys y Santes Fair.

Rhagor o wybodaeth am Wythnos Cymorth Cristnogol 2008.