20 mlynedd o weinidogaeth

Ar ddechrau gwasanaeth y Foreol Weddi yn Eglwys y Santes Fair ddydd Sul 4 Mai 2008 nodwyd ugain mlynedd o weinidogaeth y Parchg Ganon Stuart Bell fel rheithor Aberystwyth mewn defod syml. Sefydlwyd Stuart fel rheithor ddechrau Mai 1988 yn dilyn cyfnod fel ficer yn Henfynyw ac Aberaeron a chyn hynny yn Llangeler. Ei ragflaenydd yn y swydd oedd y diweddar Hybarch Bertie Lewis a oedd wedi’i apwyntio yn Ddeon Tyddewi.

Wedi ychydig eiriau gan y ficer, y Parchg Andy Herrick, siaradodd Wini Davies (Warden y bobl) i fynegi gwerthfawrogiad o’i weinidogaeth a’i ofal bugeiliol ac yna fe weddïwyd drosto gan Lyn Lewis Dafis (Warden y rheithor).

Wini Davies, y Parchg Ganon Stuart Bell a Lyn Dafis