Dathlu’r Pentecost 2008

Dathlwyd Gŵyl y Pentecost yn Eglwys y Santes Fair gyda gwasanaeth y Cymun Bendigaid am 10.00am gyda’r Parchg Ganon Stuart Bell yn llywyddu. Wedyn, yn y prynhawn am 4.30pm daeth nifer o’r aelodau at ei gilydd ar gyfer te rhoi a rhannu yn yr eglwys fel rhan o’r dathliadau. Roedd hyn yn gyfle i gymdeithasu ac hamddena yng nghwmni ein gilydd a dod i adnabod ein gilydd ychydig yn well. Yna mewn gwasanaeth o ganeuon mawl a darlleniadau ar gyfer Pentecost am 6.00pm pregethwyd gan un o ddarllenwyr lleyg yr eglwys, sef Miss Gwen Day. Hi hefyd oedd yn gyfrifol am drefnu’r te.