Taflen gyhoeddiadau 2008-06-01
CWRDD GWEDDI: Pob dydd Llun heblaw am wyliau’r banc yn yr eglwys rhwng 1 a 1.30.
TRWM EICH CLYW? Os oes gennych chi glywedydd (hearing aid) gyda T-setting fe allwch ei osod ar y T er mwyn mwyn manteisio ar yr induction loop newydd yn yr eglwys. Mae’r system induction loop yn help i’r rhai trwm eu clyw sy’n defnyddio clywedyddion i glywed yn gliriach gan ei bod yn lleihau swn yn y cefndir. Wedi ichi osod eich clywedydd i T efallai y bydd yn rhaid ichi gynyddu’r swn ar eich clywedydd. Os ydych chi am esboniad pellach am sut mae hyn yn gweithio yna mynnwch air gydag un o’r wardeniaid.
DYMUNIADAU GORAU. Dymunwn pob dymuniad da am wellhad buan i Brian Ishmael yn dilyn ei salwch diweddar.
ARGYFWNG MYANMAR (BURMA): Diolch i chi am eich rhoddion i Tearfund mewn ymateb i’r argyfwng yn dilyn y seiclon. Casglwyd £245, ac mae Tearfund wedi anfon llythyr diolch a gaiff ei ddangos yng nghefn yr eglwys.
ORGANYDDION. Os ydych chi, neu os ydych yn adnabod rhywun, a fyddai â diddordeb mewn cyfeilio yn achlysurol mewn gwasanaethau yn Eglwys S Mair, yna cysylltwch gyda Mair Jones, 627290
HEDDIW
Gwasanaethau
8.00 Cymun Bendigaid
9.30 Cwrdd Gweddi
10.00 Boreol Weddi
11.20Ysgol Sul
6.00Grym Mawl
Llithoedd
10.00 Gwen Day
SUL NESAF 8 Mehefin
Gwasanaethau
9.30 Cwrdd Gweddi
10.00 Cymun Bendigaid
11.20 Ysgol Sul
6.00 Hwyrol Weddi
Llithoedd
10:00 Robert Davies
6:00 Menna Phillips
Blodau
Lyn Lewis Dafis