-->

Taflen gyhoeddiadau 2008-0608

CWRDD GWEDDI: Pob dydd Llun heblaw am wyliau’r banc yn yr eglwys rhwng 1 a 1.30.

GŴYL CATALYDD: Mae eglwys S. Anne yn trefnu bws i fynd i ŵyl Catalydd yng Nghaerfyrddin ar ddydd Sadwrn, Gorffennaf 5, ac mae croeso ì ni deithio gyda hwy. Cost y bws fydd £5.50 i oedolion a £3 i blant. Enwau ì Wini (wid@aber.ac.uk, neu 820362) erbyn Mehefin 15 os gwelwch yn dda.

COLEG Y BALA: Mae deg o blant yr Ysgol Sul yn mynd i Goleg y Bala y penwythnos nesaf. Dymunwn bob hwyl iddynt a llawer o fendith.

TE MEFUS: Mae Grŵp Tŷ S. Maìr - fel grwpiau eraill - wedi cael eu herio gan Stuart i wneud rhywbeth er budd y gymuned. Felly cynhelir te mefus yng nghefn yr eglwys o dri tan bump ddydd Sul 6 Gorffennaf er budd Age Concern. Tocynnau £3 oddi wrth Anne neu Tommy Morgan, Mairwen, Menna, Rhiannon, Non neu Gwen.

ORGANYDDION: Os ydych chi, neu os ydych yn adnabod rhywun, a fyddai â diddordeb mewn cyfeilio yn achlysurol mewn gwasanaethau yn Eglwys S Mair, yna cysylltwch gyda Mair Jones, 627290.

TYSTIOLAETH GRISTNOGOL: Bydd y trelar a drefnir gan Roger Thomas (Byddin yr lachawdwriaeth, Eglwys Efengylaidd Gymraeg Aberystwyth) yn Sioe Aberystwyth ddydd Sadwrn 14 Mehefìn, a bydd Gasebo (pabell o fath) yn Sioe Ffos-y-Ffin ar ddydd Sadwrn, 28 Mehefin. Mae Roger yn gofyn i ni wedd’ío dros y dystiolaeth yn y digwyddiadau hyn, Os oes rhywun yn dymuno helpu, dylid cysylltu â’r Parch. Ifan Mason Davies, rhif ffon, 01970-880869.

HEDDIW
Gwasanaethau
9:30 Cwrdd Gweddi
10.00 Cymun Bendigaid
11:20 Ysgol Sul
6:00 Hwyrol Weddi

SUL NESAF 15 Mehefin: Pentecost 5
Gwasanaethau
8:00 Cymun Bendigaid
9.30 Cwrdd Gweddi
10.00 Gwasanaeth Teuluol
6.00 HwyrolWeddi
Llithoedd: 6:00 Lyn Lewis Dafis
Blodau: Mrs Gwladys Hughes
Coffi Gwasanaeth Teuluol: Siôn a Janet