Te mefus 2008-07-06
Dydd Sul diwethaf cynhaliwyd te mefus yn Eglwys y Santes Fair, Aberystwyth er budd yr elusen Cyngor Henoed Ceredigion, neu Age Concern. Rhwng tri a phump o’r gloch y prynhawn croesawyd cant a rhagor o bobol i Eglwys S. Mair i fwyta mefus ac i wrando ar gerddoriaeth telyn Eleri Turner. Trefnwyd y te mefus gan aelodau grŵp tŷ Eglwys y Santes Fair sy’n cyfarfod yn wythnosol i ddarllen ac astudio’r ysgrythurau. Wedi darllen “Better together: what on earth are we here for?” gan Rick Warren heriwyd aelodau’r grŵp i fynd ati i drefnu gweithgaredd fyddai’n dod â’r eglwys i gysylltiad agosach gyda’r gymuned ac yn ei gwasanaethu mewn rhyw ffordd. Gweithiodd nifer yn galed iawn i wneud y te yn un llwyddiannus, yn arbennig felly Anne Green-Morgan a’i gŵr, Tommy Morgan. Wrth gwrs fe wnaeth holl aelodau’r grŵp wneud eu rhan i sicrhau fod popeth yn mynd yn iawn. Yn ystod y prynhawn cafwyd gair gan Annmarie Pitt, cyfarwyddwr dros dro Cyngor Henoed Ceredigion yn esbonio pa fath o waith mae’r mudiad yn ei wneud.
Diolch i’r rhai a weithiodd mor galed ar y dydd ac i bawb a gefnogodd y digwyddiad. Codwyd dros £450 yn ystod y te.
