Ann McKnight yn arwain ei gwasanaeth cyntaf
Roedd nos Sul 21 Medi 2008 yn noson arbennig iawn yn Eglwys y Santes Fair, Aberystwyth. Y noson hon yr oedd y gwasanaeth a’r bregeth yng ngofal Mrs Ann McKnight. Dyma’r tro cyntaf i Ann gymryd at wasanaeth cyfan. Mae hi’n paratoi ar gyfer bod yn ddarllenydd lleyg ac y mae wedi bod yn hyfforddi [...]
Gwasanaethau Diolchgarwch am y cynhaeaf
DIOLCHGARWCH AM Y CYNHAEAF
YN
EGLWYS Y SANTES FAIR
Dydd Sadwrn 11 Hydref
6.30: Swper y Cynhaeaf a Chwis i ddilyn
yn Neuadd y Plwyf
[Mynediad trwy docyn: £4 y pen]
Dydd Sul 12 Hydref
10.00: Cymun Teuluol a chwpanaid i ddilyn
6.00: Mawl y Cynhaeaf
Pregethir bore a nos gan y Dr. Dewi Arwel Hughes
Awdur ac arweinydd Cristnogol
Neges gan y Rheithor ar gyfer Diolchgarwch am y cynhaeaf
Annwyl Gyfeillion
Gyda’r haf sydd wedi mynd heibio yn fwy gwlyb nac am flynyddoedd maith, a gyda’r sefyllfa ofnadwy sydd yn ein hwynebu yn y byd ariannol, dydyn ni ddim yn dod i mewn i’r hydref yn llawen iawn. I’r gwrthwyneb, mae digon o reswm dros betruso. Dydyn ni ddim yn sicr bod yr [...]
Dathlu 10 mlynedd ail-sefydlu’r Ysgol Sul 2008-09-20
I ddathlu deng mlynedd ers ail-sefydlu Ysgol Sul Eglwys y Santes Fair cynhaliwyd parti yn yr eglwys i’r holl blant a’r bobl ifainc sy’n aelodau o’r Ysgol Sul bresennol ddydd Sadwrn, 20 Medi 2008. Roedd hi’n ddiwrnod hyfryd ac fe gynhaliwyd picnic ar y lawnt tu fas i’r eglwys gyda gemau i ddilyn. Wedyn, cyn [...]