Dathlu 10 mlynedd ail-sefydlu’r Ysgol Sul 2008-09-20

I ddathlu deng mlynedd ers ail-sefydlu Ysgol Sul Eglwys y Santes Fair cynhaliwyd parti yn yr eglwys i’r holl blant a’r bobl ifainc sy’n aelodau o’r Ysgol Sul bresennol ddydd Sadwrn, 20 Medi 2008. Roedd hi’n ddiwrnod hyfryd ac fe gynhaliwyd picnic ar y lawnt tu fas i’r eglwys gyda gemau i ddilyn. Wedyn, cyn i un o’r wardeniaid adrodd stori werin, cyneuwyd 10 cannwyll ar gacen pen-blwydd a chanwyd “Pen blwydd hapus i Ysgol Sul Eglwys y Santes Fair” (tipyn o lond ceg!). Trefnwyd y parti gan rieni ac athrawon yr Ysgol Sul.