Neges gan y Rheithor ar gyfer Diolchgarwch am y cynhaeaf

Y Parchg Ganon Stuart Bell, Rheithor Plwyf AberystwythAnnwyl Gyfeillion

Gyda’r haf sydd wedi mynd heibio yn fwy gwlyb nac am flynyddoedd maith, a gyda’r sefyllfa ofnadwy sydd yn ein hwynebu yn y byd ariannol, dydyn ni ddim yn dod i mewn i’r hydref yn llawen iawn. I’r gwrthwyneb, mae digon o reswm dros betruso. Dydyn ni ddim yn sicr bod yr ewyllys gennym i ddatrys problem y byd yn twymo. Ar yr un pryd ni allwn fod yn si?r na fydd pobl hunanol yn gwneud penderfyniadau a fydd yn gwneud y sefyllfa ariannol yn waeth.

Gwreiddyn cymaint o’n problemau yn y byd yw pobl a’u natur gwympedig. Calon y broblem yw problem y galon ddynol. Mae cymaint yn pwyntio’r bys at Dduw ac yn ei feio ef am y tywydd neu am drychinebau. Petai bawb yn plygu i’w ewyllys ef a dewis bod yn ufudd iddo mi fyddai’r byd o’n cwmpas bron yn nefoedd yn syth.

Dewch atom eleni i’r swper er mwyn cael cymdeithasu gyda theulu’r eglwys, ac wedyn i addoli gyda ni ar y Sul. Fe gawn glywed oddi wrth ddyn sydd bellach yn arbenigwr ar gymaint o’r problemau sydd yn wynebu ein byd. Trwy weithio i Gronfa Tear daeth Dewi Arwel Hughes i wybod llawer iawn am y dioddef sydd yn ein byd a beth sydd yn achosi’r tlodi. Wrth ddod i ddiolch i Dduw am beth sydd wedi dod i ni, gadewch i ni ystyried o’r newydd yr angen a’r newyn a’r dioddef y mae o fewn ein cyrraedd ni i wneud rhywbeth amdanynt.

Dros y cyrddau Sul fe wneir casgliad arbennig at waith Gronfa Tear yn y trydydd byd. Rhowch yn hael yn ôl eich arfer, os gwelwch yn dda.

Stuart R Bell