Ann McKnight yn arwain ei gwasanaeth cyntaf

Roedd nos Sul 21 Medi 2008 yn noson arbennig iawn yn Eglwys y Santes Fair, Aberystwyth. Y noson hon yr oedd y gwasanaeth a’r bregeth yng ngofal Mrs Ann McKnight. Dyma’r tro cyntaf i Ann gymryd at wasanaeth cyfan. Mae hi’n paratoi ar gyfer bod yn ddarllenydd lleyg ac y mae wedi bod yn hyfforddi am flwyddyn. Dros y blynyddoedd diwethaf dysgodd Ann Gymraeg ac roedd hi’n arwain gwasanaeth yr Hwyrol Weddi ac yn pregethu yn gyfan gwbl yn yr iaith. Ymhen blwyddyn bydd Ann wedi gorffen ei hyfforddi ac yn derbyn trwydded yr esgob i wasanaethu fel darllenydd lleyg yn yr esgobaeth. Dymunwn pob bendith arni wrth iddi barhau i astudio.

Ann McKnight