Diolchgarwch am Cynhaeaf 2008
Ar Hydref 11 daeth nifer dda o aelodau eglwys S. Mair, Aberystwyth, a ffrindiau ynghyd i rannu swper y Cynhaeaf. Wedi’r pryd blasus a’r cyfle i gymdeithasu dros y bwyd, buan y daeth hi’n amser i droi ein meddyliau at bethau mwy difrifol. Llynedd am y tro cyntaf cawsom gwis ar ôl y pryd bwyd a roedd pawb wedi mwynhau gymaint fel bod yn rhaid gofyn i’r cwisfeistr, sef warden y Rheithor, Lyn Léwis Dafis, greu cwis arall inni. Fel llynedd roedd y byrddau yn cystadlu yn erbyn eu gilydd a bu brwydro ffyrnig am bob pwynt! Cyn noswylio, cafwyd cyflwyniad byr am waith elusen Tearfund yn Burkina Faso. Mae Tearfund yn gweithio gyda’r mudiad lleol, Credo, i helpu pobl i ddod yn hunangynhaliol. Fel arfer, mae’n casgliadau amser Diolchgarwch yn mynd tuag at waith Tearfund a mae pawb â diddordeb i wybod be sy’n digwydd gyda’r arian. Mae mwy o wybodaeth am yr elusen ar y wefan www.tearfund.org

Y bore wedyn daeth pawb at ei gilydd unwaith eto ar gyfer cymun teuluol, gyda Dr Dewi Arwel Hughes, ymgynghorydd diwinyddol Tearfund, yn pregethu. Cafwyd drama gan blant a phobl ifanc yr eglwys yn tynnu ein sylw at y ffordd y gofalodd Duw am anghenion ei bobl gan ddarparu manna ar gyfer yr Israeliaid yn yr anialwch. Gwelwyd soflieir realistig iawn yn hedfan drwy’r awyr! Testun pregeth Dr Hughes oedd y darlleniad o Mathew 6: 22-24, a fe ddadleuodd yn gryf fod ‘llygad iach’ hefyd yn ‘lygad hael’. Ym Mawl y Cynhaeaf fin nos fe’n gwahoddwyd i edrych ar Salm 65 fel enghraifft berffaith o’r hyn a elwir yn Sbaeneg yn ‘misión integral’ sef cenhadaeth gyflawn. Mae’r salm yn cyfeirio at dri agwedd hanfodol o gymeriad Duw, a ddylai fod yn ysbrydoli ein cenhadaeth ac yn ran hanfodol o’r newyddion da yr ydym yn eu rhannu am Dduw: (1) ei faddeuant; (2) ei gyfiawnder; (3) Duw yn gofalu am ei greadigaeth ac yn darparu ar gyfer ei greaduriaid. Roedd y dathlu brwdfrydig dros y Sul yn dystiolaeth glir o’r ffaith ein bod fel cynulleidfa wedi cael profiad personol unwaith eto eleni o’r maddeuant, y cyfiawnder a’r gofal yna a gweddiwn y bydd miloedd mwy yn cael yr un profiad yn y flwyddyn i ddod.

Wini Davies