Darlith ar Emynwyr Aberystwyth 2008-11-26

Delyth G Morgans

Ar 26 Tachwedd 2008 cafwyd darlith hynod o ddifyr gan Delyth G. Morgans, awdur Cydymaith Caneuon Ffydd, ar bwnc ‘Emynwyr Aberystwyth’. Trefnwyd y noson i nodi dechrau swyddogol yr ymgyrch i godi arian tuag at atgyweirio a glanhau organ Eglwys S. Mair, un o’r organau hynaf yn nhref Aberystwyth. Adeiladwyd hi yn yr 1840au cynnar yn Llundain gan gwmni Flight & Robson ac mae wedi bod yn yr eglwys ers yr 1890au cynnar, pan symudwyd hi o beth oedd bryd hynny yn gapel S. Mihangel (eglwys bresennol S. Mihangel).

Yn y ddarlith canolbwyntiodd Delyth yn bennaf ar eiriau’r emynau ond roedd cyfle tua’r diwedd i fwrw golwg ar ambell i emyn-dôn ac i gael cwis byr ar rai o’r tonau.

Er nad yw pawb wedi dotio ar Aberystwyth (e.e. honnodd J. Glyn Davies mai Aberystwyth oedd ‘y lle mwyaf ofnadwy y bum yn byw ynddo erioed’) roedd eraill yn fwy hoff o’r lle, a llawer wedi cael eu hysbrydoli i sgwennu emynau tra’n byw yma, er mai prin yw’r nifer sydd wedi’u geni a’u magu yn Aberystwyth.

Gwnaeth Delyth ei gorau glas i gadw’r ddysgl yn wastad rhwng Anglicaniaeth ac Anghydffurfiaeth ond rhaid cyfaddef mai o blith yr Anghydffurfwyr y daeth y mwyafrif o emynwyr y dref, er inni gloi gydag enghreifftiau o waith y Barchedig Enid Morgan, sy’n gyfarwydd iawn i gynulleidfa S. Mair. Yn ystod y ddarlith cawsom enghreifftiau o emynau cyfoes a rhai hŷn, rhai gwreiddiol a rhai wedi eu cyfieithu o’r Saesneg i ddangos gymaint yw cyfraniad emynwyr Aberystwyth i’n haddoliad ar y Sul.

Braf iawn oedd cael dathlu gyda’n gilydd un agwedd mor bwysig ar dreftadaeth Gristnogol Aberystwyth. Gobeithio y bydd trigolion Aberystwyth, o bob oedran ac o bob enwad, yn lleol neu yn bobl ddŵad, yn parhau i gael eu hysbrydoli gan y lle a gan eu hymwybyddiaeth o bresenoldeb Duw yn y lle hwn i gyfansoddi mwy o emynau a chaneuon o fawl, ac edrychwn ymlaen at ddefnyddio’r emynau yma yn ein haddoliad yn y dyfodol, ar organ adferedig.