Neges y Rheithor ar gyfer Nadolig 2008

Annwyl Gyfeillion

Mae pethau yn digwydd yn aml iawn y dyddiau hyn sydd yn achosi pobl i ddweud ‘Ni fydd y byd fyth yr un peth eto ar ôl hyn’. Dyna beth ddywedwyd ar ôl 9/11, ac ar ôl ethol dyn du i fod yn arlywydd yn America, ac ar ôl gweld y banciau yn syrthio fel sydd wedi digwydd yn ddiweddar. Ar y diwrnod pan ddigwyddodd y pethau mawrion hyn roedd yn amlwg i bawb bod rhywbeth seismig wedi ein bwrw ni. Digwyddiadau tu hwnt o bwysig oeddent, sydd wedi gwneud byd o wahaniaeth i bawb.

Doedd gweld baban yn cael ei eni mewn stabl a’i ddodi mewn preseb ddim mor anghyffredin â hynny yn yr oes a fu. Fel yna oedd bywyd ar y pryd. Ni fyddai neb wedi meddwl ddwywaith am hynny ar y pryd. Ond roedd e’n ddigwyddiad tu hwnt o bwysig. Un sydd wedi gwneud byd o wahaniaeth i bawb oddi ar hynny. Tyfodd Iesu i fyny i fod yn ddyn gyda’r dylanwad mwyaf y mae’r byd wedi’i weld erioed.

Cafodd ei ddysgeidiaeth ei chofnodi gair am air. Mae digwyddiadau ei fywyd wedi wedi bod yn gefndir i’n calendr o’i enedigaeth i’w atgyfodiad. Mae’n cael ei addoli gan ddwy filiwn o Gristnogion yn y byd heddiw ac mae’r nifer yn tyfu o filiynau bob blwyddyn.

Dywedodd ef ei fod yn Feseia a ddaeth i’r byd am reswm arbennig; ei fod yn Fab i Dduw a ddaeth â neges oddi wrth Dduw ei hunan; ei fod yn Iachawdwr a ddaeth i wneud gwahaniaeth trwy ei farwolaeth. Yr holl bethau hyn, ac mae’n aros am ymateb oddi wrthym ni o hyd. A ydy’r pethau hyn yn wir, neu beidio?

Beth amdanom yn rhoi mwy o sylw i’r pethau hyn ar adeg y Nadolig eleni? Mae mwy o bobl yn mynychu’r eglwys dros yr ?yl hon nac unrhyw adeg arall yn y flwyddyn. Ymunwch gyda ni yn y cyrddau. Byddai’n hyfryd eich gweld.

Nadolig Llawen Iawn

Stuart R Bell