Llwyddiant Tim!

Ym mis Tachwedd 2008, rhoddodd Timothy Ansell o Eglwys y Santes Fair, Aberystwyth gynnig ar gystadleuaeth i ddylunio logo i’r elusen Gwirvol, sef partneriaeth Gymreig sy’n hyrwyddo a chefnogi gwaith gwirfoddol gan bobl ifanc. Enillodd Tim y wobr gyntaf yn y gystadleuaeth, sef £200 iddo ef ei hun a £300 ar gyfer cymdeithas neu fudiad [...]

Gwasanaethau’r Pasg a’r Wythnos Fawr 2009

Dyma grynodeb o wasanaethau’r Pasg a’r Wythnos Fawr yn Eglwys y Santes Fair a phlwyf Aberystwyth.
Thema’r wythnos: Y cymylau yn crynhoi
Dydd Llun 6ed Ebrill
7.00: Eglwys Llanychaearn
Dydd Mawrth 7fed Ebrill
7.00: Eglwys y Santes Ann, Penparcau
Dydd Mercher 8fed Ebrill
7.00: Eglwys y Santes Fair
Dydd Iau Cablyd 9fed Ebrill
7.00: Capel Dewi [...]

Neges y Rheithor ar gyfer y Pasg 2009

Annwyl gyfeillion
‘Atgyfodiad!’ Gwaedd yr eglwys Gristnogol ar adeg y Pasg. Fe wnaeth digwyddiadau 9/11 newid hanes diweddar y byd, felly y gwnaeth atgyfodiad Iesu o’r bedd newid hanes y byd, yn yr oes a fu a heddiw.
Cyn atgyfodiad Iesu mi fyddai’r paganiaid wedi ysgrifennu pethau diobaith ar eu cerrig beddau…
‘Doeddwn i ddim [...]

Bore coffi’r Garawys 2009-03-28

Ddydd Sadwrn fe gynhaliwyd Bore coffi blynyddol Eglwys y Santes Fair. Rydyn ni fel arfer yn cynnal y bore coffi yn ystod Tymor y Garawys yn y Rheithordy ym Maes Lowri, ac fe arfer mae’r arian a godir yn mynd tuag at genhadaeth yr eglwys. Eleni yr oeddem yn codi arian i gefnogi un o [...]

Sul y Fam 2009-03-22

Mae’n arferiad yn Eglwys y Santes Fair, gan ddilyn arfer yr eglwys ar hyd y canrifoedd, i gadw Pedwerydd Sul y Garawys fel Sul y Fam. Y Fam yn yr achos hwn yw yr eglwys a ninnau yn aelodau o’i theulu, sydd hefyd yn deulu Duw. Bellach yr ydym yn defnyddio’r Sul i roi parch [...]

Gŵyl Dewi 2009-03-01

Yn wahanol i’r arfer fe nodwyd Dydd Gŵyl Dewi yn Eglwys y Santes Fair eleni gyda gwasanaeth y Cymun Bendigaid ar gyfer holl deulu’r eglwys. Fel arfer byddwn yn cael gwasanaeth agape yn Neuadd y Plwyf, ond eleni roedd Gŵyl Dewi yn syrthio ar ddydd Sul. Felly penderfynwyd mai yn adeilad yr eglwys y byddem [...]