Gŵyl Dewi 2009-03-01
Yn wahanol i’r arfer fe nodwyd Dydd Gŵyl Dewi yn Eglwys y Santes Fair eleni gyda gwasanaeth y Cymun Bendigaid ar gyfer holl deulu’r eglwys. Fel arfer byddwn yn cael gwasanaeth agape yn Neuadd y Plwyf, ond eleni roedd Gŵyl Dewi yn syrthio ar ddydd Sul. Felly penderfynwyd mai yn adeilad yr eglwys y byddem yn dathlu’r ŵyl.

Y Rheithor, y Parchg Ganon Stuart Bell, oedd llywydd y gwasanaeth, ac ef wnaeth annerch yn ystod y gwasanaeth gan gymryd y genhinen yn ddarlun o ddibyniaeth y Cristion ar Grist am ei fywyd ac am faeth yn ystod ei fywyd.
Wedi’r gwasanaeth fe wnaeth pawb oedi i gael coffi, sgwrs a darn o gacen arbennig ar gyfer Gŵyl Dewi.
Rhagor o luniau o ddathlu Gŵyl Dewi yn Eglwys y Santes Fair.