Bore coffi’r Garawys 2009-03-28

Gweithwyr y gegin

Ddydd Sadwrn fe gynhaliwyd Bore coffi blynyddol Eglwys y Santes Fair. Rydyn ni fel arfer yn cynnal y bore coffi yn ystod Tymor y Garawys yn y Rheithordy ym Maes Lowri, ac fe arfer mae’r arian a godir yn mynd tuag at genhadaeth yr eglwys. Eleni yr oeddem yn codi arian i gefnogi un o gyn-weithwyr yr eglwys, Anna Huws. Mae Anna yn paratoi i fynd i wneud gwaith cymdeithasol yn enw Iesu.

Roedd eleni ychydig yn wahanol i’r arfer oblegid roedd ‘na weithwyr newydd yn y gegin. Y rhai oedd yn bennaf gyfrfiol am wneud y coffi a’i weini oedd rhai o bobol ifainc yr Ysgol Sul. Aeth popeth yn ddidrafferth ac mae’n siŵr y byddwn yn troi atyn nhw rywbryd eto i helpu gyda’r gwaith hwn. Diolch iddyn nhw am eu gwaith caled, i bawb a ddaeth i gefnogi, i Mrs Bevan a Wini ar y stondin gacennau, ac i bawb arall a gyfrannodd mewn unrhyw fodd i lwyddiant y bore.

Rhagor o luniau o’r bore coffi.