Neges y Rheithor ar gyfer y Pasg 2009
Annwyl gyfeillion
‘Atgyfodiad!’ Gwaedd yr eglwys Gristnogol ar adeg y Pasg. Fe wnaeth digwyddiadau 9/11 newid hanes diweddar y byd, felly y gwnaeth atgyfodiad Iesu o’r bedd newid hanes y byd, yn yr oes a fu a heddiw.
Cyn atgyfodiad Iesu mi fyddai’r paganiaid wedi ysgrifennu pethau diobaith ar eu cerrig beddau…
‘Doeddwn i ddim – ces i fy ngeni.
Roeddwn i – nawr, nid wyf fi.
Dyna’r cyfanswm. Os ydy dyn yn dweud fel arall, mae’n gelwyddgi.
Ni fyddaf i’.
Does fawr iawn o obaith yn y geiriau yna. Y gwir yw dyw e ddim yn rhoi cysur i neb. Maent yn debyg i’r geiriau uwchben porth teml Asklepios yn Pergamus, ‘Ni all marwolaeth ddod i mewn’. Rwyf yn si?r bod llawer o’r cwsmeriaid yn y deml honno wedi’u siomi’n fawr iawn.
Mae atgyfodiad Iesu yn gweiddi allan un gair, ‘Gobaith!’ Mae Cristnogion yn medru dweud hynny wrth y bobl sydd ar eu gwely angau, y bobl sydd yn heneiddio, y bobl sydd yn ofni’r dyfodol ac wrth y galarwyr. Oherwydd marwolaeth ac atgyfodiad Iesu, mae yna obaith. Oherwydd bod marwolaeth wedi ffoi pan ddaeth Iesu i faes y gad, mae yna obaith. Gobaith diddiwedd sydd o’n blaen, yn hytrach na diwedd anobeithiol.
Y sawl sydd yn marw gyda’r teganau gorau, ai fe yw’r un sydd yn ennill? Nage, dwi ddim yn credu. Y sawl sydd yn marw yng nghwmni Crist, fe yw’r un sydd yn ennill. Mae bywyd gennym nawr, a bywyd gennym wedyn. Rydym yn credu mewn bywyd ar ôl bywyd.
Dewch i ymuno â ni yn ein dathliadau atgyfodiad dros adeg y Pasg.
Pob bendith
Stuart