Llwyddiant Tim!

Clwb Shwanc

Ym mis Tachwedd 2008, rhoddodd Timothy Ansell o Eglwys y Santes Fair, Aberystwyth gynnig ar gystadleuaeth i ddylunio logo i’r elusen Gwirvol, sef partneriaeth Gymreig sy’n hyrwyddo a chefnogi gwaith gwirfoddol gan bobl ifanc. Enillodd Tim y wobr gyntaf yn y gystadleuaeth, sef £200 iddo ef ei hun a £300 ar gyfer cymdeithas neu fudiad o’i ddewis, i’w wario ar offer. Yn ei garedigrwydd, dewisodd Tim gyflwyno’r arian i Clwb Shwanc, sef clwb ieuenctid y Santes Fair. Prynwyd bwrdd tennis bwrdd a bwrdd hoci aer gyda’r arian ac maen nhw wedi dod ag elfen fawr o fwynhad a chyffro i’r clwb! Dechreuodd Clwb Shwanc ym mis Tachwedd 2007 ac mae’n cyfarfod bob yn ail nos Wener yn yr eglwys, rhwng 7.30-9.15 yh. Mae nifer o weithgareddau amrywiol yn cael eu cynnal, y tu mewn a thu allan, ynghyd ag epilog neu drafodaeth.

Gellwch weld logo Tim ar wefan Gwirvol.

Am fwy o wybodaeth am Clwb Shwanc, cysylltwch â Gwenda Wallace ar 01970 880817, 07980 350949 neu gwenda@eglwysfair.org. Mae croeso cynnes i unrhyw un rhwng 11-18 oed ymuno â’r clwb.

Tim ydy’r bachgen tal mewn crys du a gwyn yng nghanol y ffotograff!