Encil 2009

Y criw

Ar Ebrill 25 cynhaliwyd encil flynyddol eglwys S. Mair, Aberystwyth, dan ofal y Parchedig Hywel Edwards, un o arweinwyr eglwys Antioch, Bae Colwyn. Fel arfer cynhaliwyd yr encil ym Mhlas Dolau, tua dwy filltir o Aberystwyth, yn ddigon agos i fod yn gyfleus ond yn ddigon pell inni allu anghofio am bwysau gwaith a phroblemau ein bywydau beunyddiol am ychydig.

Dechreuwyd y diwrnod gydag addoliad, ac yna buom yn myfyrio ar thema’r dydd, sef ‘Byw yn ei Bresenoldeb’. Bwriad Hywel oedd ein harwain i fyfyrio ar be mae’n olygu i fyw ym mhresenoldeb Duw ac i ystyried ffyrdd ymarferol o sicrhau ein bod yn gwneud hynny. Dechreuodd drwy sôn am bethau sy’n ein cadw rhag dod i bresenoldeb Duw, er gwaethaf ei holl wahoddiadau inni a’r ffaith ei fod – ar ddydd Gwener y Groglith – wedi dangos yn glir inni fod unrhyw len a oedd yn bodoli rhyngom ni ag ef wedi ei rwygo. Mae’r llythyr at yr Hebreaid yn ein hannog dro ar ôl tro i nesáu yn hyderus at orsedd gras, ond mae’n si?r y gall mwy nag un ohonom dystio nad ydym bob amser yn ymateb i’r alwad yna. Mae gwahanol bethau yn ein cadw rhag nesáu yn hyderus, e.e. cywilydd, sy’n gallu effeithio arnom hyd yn oed wedi inni ofyn i Dduw am faddeuant. Tynnodd Hywel ein sylw at lawer o adnodau yn y Beibl sy’n dangos inni fod Dyw yn delio hefo’n cywilydd a’n heuogrwydd, gan ddechrau hefo Duw yn gwneud peisiau o grwyn i Adda ac Efa i guddio eu cywilydd (Genesis 31: 21. 2). Fe wnaethpwyd Crist yn bechod drosom ni, er mwyn inni ddod yn gyfiawnder Duw ynddo ef (2 Corinthiaid 5: 21). Mae Duw wedi darparu ffordd o ddelio hefo’n cywilydd ni, sef mynd ag ef at y Groes er mwyn inni wedyn gymryd gafael yn y bywyd newydd sy’n cael ei gynnig inni: ‘aeth yr hen heibio, y mae’r newydd yma’ (2 Corinthiaid 5: 17). Drwy ei farw a’i atgyfodiad mae Iesu Grist wedi dirymu grym bopeth negyddol sy’n ein clymu a’n cadw rhag dod i’w bresenoldeb. Mae’r hen bethau wedi eu claddu gyda Christ a rydym ni wedi ein hatgyfodi gydag ef i fywyd newydd, bywyd y dylasem fwynhau yn ei holl lawnder.

Yn rhan nesaf y diwrnod buom yn meddwl am y ffordd mae mawl yn gallu dod â ni i mewn i bresenoldeb Duw. Edrychasom ar lawer o enghreifftiau o’r Beibl lle mae pwysigrwydd mawl yn amlwg, e.e. Salm 100: ‘Dewch i mewn i’w byrth â diolch.’ Yn Salm 149 darllenwn fod y bobl yn cael eu hannog i fynd allan gyda moliant yn eu genau a chleddyf daufiniog yn eu llaw. Mae budd mawr hefyd i’w gael o foli’n uchel, nid yn unig mewn cynulleidfa yn yr eglwys ond hefyd pan ydym ar ein pennau ein hunain. Yn un peth, mae’n fodd o godi calon ac o adnewyddu ein meddwl a’i drawsffurfio. Trwy foli Duw a datgan ei enw a’i briodoleddau (sanctaidd, cyfiawn, gwir, holl gariadus, trugarog, araf i ddigio, ac yn y blaen) rydym yn tynnu i lawr gadarnleoedd y gelyn yn ein bywydau, ein calonnau a’n meddyliau.

Wedi siarad am fanteision moli yn uchel fe’n hanfonwyd allan i erddi Plas Dolau i ddysgu drwy wneud. Daeth pawb yn ôl at ei gilydd mewn hwyliau da iawn yn barod am ginio, ac yna wedi cinio cafwyd sesiwn ar theoffani y Beibl, h.y. buom yn edrych ar ddarlleniadau o’r Beibl lle mae Duw yn dangos ei hun wyneb yn wyneb i’w bobl, e.e. yn y berth yn llosgi neu yng ngweledigaeth Eseciel (Eseciel 1). Ar yr adegau yma gwelwn Duw yn codi cwr y llen ar y nefoedd ac yn rhoi cip olwg inni ohono’i hun yn nhragwyddoldeb. Fe’n hanogwyd i fyfyrio ar rai o’r darlleniadau yma fel ffordd o fynd i mewn i wirionedd y nefoedd agored, h.y. y nefoedd y gallwn ei gweld heb len rhyngom a hi.

Unwaith eto, cawsom gyfle i ymarfer yr hyn yr oeddem wedi ei drafod, a roedd yn amlwg fod pob un wedi profi ymwybyddiaeth o bresenoldeb yr Arglwydd. Dwi’n si?r ein bod i gyd wedi mynd adref wedi ymrwymo i geisio dod i mewn i bresenoldeb yr Arglwydd yn fwy eofn a hyderus o hyn ymlaen fel ein bod yn gallu dweud gyda’r salmydd: ‘Fel hyn y syllais arnat yn y cysegr, a gweld dy rym a’th ogoniant’ (Salm 63:2).

Wini Davies