Esgob Tyddewi yn ymweld ag Eglwys y Santes Fair 2009-05-10

Yr Esgob Wyn a phlant yr Ysgol Sul

Roedd bore Sul 10 Mai yn ddiwrnod arbennig yn hanes Eglwys y Santes Fair wrth inni groesawu y Gwir Barchedig Wyn Evans, Esgob Tyddewi i bregethu a gweinyddu yng ngwasanaeth y Cymun Bendigaid. Bu tad yr esgob, yr Hybarch Eifion Evans, yn ficer ar Eglwys S. Mair rhwng 1957 ac 1967, ac yn ystod y cyfnod hwnnw bu’n aelod brwdfrydig o’r Ysgol Sul a oedd yn cwrdd yno.

Bellach wedi gyrfa o wasanaethu yn yr esgobaeth mae yn Esgob Tyddewi, a dyma’r tro iddo ymweld ag Eglwys y Santes Fair yn gwisgo ei feitr esgob. Arweiniwyd rhannau dechreuol y gwasanaeth gan un o ddarllenwyr lleyg yr eglwys, Lyn Dafis, a darllenwyd gan Menna Phillips.

Am destun ei bregeth troes yr esgob at yr efengyl ar gyfer Pumed Sul y Pasg, sef darn allan o’r bymthegfed bennod o’r efengyl yn ôl S. Ioan: “Myfi yw’r wir winwydden, a’m Tad yw’r gwinllannwr. Y mae ef yn torri i ffwrdd bob cangen ynof fi nad yw’n dwyn ffrwyth, ac yn glanhau pob un sydd yn dwyn ffrwyth, er mwyn iddi ddwyn mwy o ffrwyth… Ni all y gangen ddwyn ffrwyth ohoni ei hun, heb iddi aros yn y winwydden; ac felly’n union ni allwch chwithau heb i chwi aros ynof fi. Myfi yw’r winwydden; chwi yw’r canghennau. Y mae’r sawl sydd yn aros ynof fi, a minnau ynddo yntau, yn dwyn llawer o ffrwyth, oherwydd ar wahân i mi ni allwch wneud dim.” Pwysleisiodd pa mor bwysig oedd meithrin a chadw ein perthynas â Duw trwy Iesu Grist, oherwydd dyna lle mae bywyd yn tarddu a dyna lle mae bywyd yn cael ei faethu.

Wedi’r gwasanaeth cafwyd cyfle i sgwrsio dros baned yng nghefn yr eglwys. Roedd hyn yn gyfle i lawer ddymuno’n dda i’r esgob a hel atgofio am sut roedd pethau yn S. Mair slawer dydd.

Cyn ymadael bu’r Esgob Wyn yn siarad gyda phlant yr Ysgol Sul am ei waith.

Yr Esgob Wyn

Rhagor o luniau o ymweliad yr Esgob Wyn.