Ymweliad Bill Roberts 2009-06-21

Ddydd Sul, 21 Mehefin, cawsom ymwelydd arbennig ag Eglwys y Santes Fair, sef y Parchedig Bill Roberts, rheithor Eglwys Esgobol S. Gregory yn Deerfield, Illinois, y Taleithiau Unedig. Bu Bill ym mhob un o wasanaethau’r Sul yn Eglwys S. Mair am ei fod am weld sut roedden ni yn ‘gwneud pethau’.
Mae Bill Roberts ar gyfnod sabothol o’i waith, ond mae’n defnyddio’r cyfnod hwn er mwyn dysgu a deall pethau’n well. Ac er mwyn cael profiadau a fydd yn cyfoethogi ei weinidogaeth a’i ddefnyddioldeb i Dduw wedi’r gwyliau sabothol.
Cymru oedd y cyntaf o bedair gwlad y bydd Bod yn ymweld â nhw ar ei daith. Wedi bod yma bydd yn treulio cyfnod yn Lloegr, (Ffrainc) a Madagascar.
Fel y tystia ei enw mae Bill o dras Cymraeg ac mae wedi dysgu Cymraeg. Ei ddiddordeb mawr yw’r cyfle mae’r adfywiad mae’r Gymraeg yn ei phrofi yn ei rhoi i’r Eglwys i rannu’r newyddion da. Wrth ymchwilio i hyn roedd yn cael cyfle i drafod gyda nifer fawr. Yn ogystal ag Eglwys y Santes Fair yr oedd wedi, neu’n bwriadu, ymweld â’r canlynol: Eglwys Dewi Sant, Caerdydd; Plwyf Dewi Sant, Caerfyrddin; Eglwys St. Mark, Gabalfa (Caerdydd); Eglwys S. Gabriel, Cwm-y-glo; ac Eglwys Mihangel, Llanrug.
Ar ben ymweld â’r holl eglwysi hynny mae Bill wedi bod yn ymweld â llefydd eraill a chyfarfod â nifer o unigolion. Wrth i mi siarad gydag ef cefais hanes i ymweliad ag Ysgol Gartholwg (yr hen Rydfelen) lle cafodd gyfle i siarad gyda rhai o’r myfyrwyr hŷn am eu hagweddau tuag at y Gymraeg a beth oedd eu hymateb i Gristnogaeth.
Yn ddifyr iawn mae Bill yn perthyn i fyd y blogwyr ac mae adrodd hanes i gyfnod sabothol, gan gynnwys ei gyfnod yng Nghymru, ar y blog hwnnw. Felly fe ellir dilyn ei deithiau a’i sgyrisau ar St. Blogory’s. Mae’n disgrifio’r blog hwnnw fel hyn: “These are the voyages of the Rector’s Sabbatical. Its three-month mission: to explore three Christian cultures: Welsh-speaking Wales, Emerging Church England, and Anglican Madagascar; to seek out new life and new friends in Christ; to boldly go where Christ has gone before.