Cyflwyno llyfrau gwasanaeth 2009-07-14

Y Canon Stuart Bell a Miss Menna Phillips

Yn ddiweddar cyflwynwyd llyfrau gwasanaeth newydd at ddefnydd yn Eglwys y Santes Fair gan Miss Menna Phillips. Cyflwynodd gopi o lyfr Gwasanaeth y Cymun Bendigaid 2004 at wasanaeth y Bwrdd Sanctaidd ynghyd â’r Calendr newydd a’r colectau. Dros y blynyddoedd diwethaf mae’r Eglwys yng Nghymru wedi mabwysiadu calendr newydd ynghyd a ffurf newydd ar wasanaeth y Cymun Bendigaid. Dywedodd y Canon Stuart Bell, rheithor Plwyf Aberystwyth, wrth dderbyn y rhodd ar ran y eglwys, “Yr wyf yn ddiolchgar i Menna am ei rhodd. Bydd y llyfrau hyn yn hwyluso ein defnydd o’r ffurfiau ar wasanaeth y Cymun Bendigaid, y calendar a’r colectau o Sul i Sul yn Eglwys y Santes Fair.”