Aelodau Clwb Shwanc yn aros y noson yn yr eglwys! 2009-07-25

Penderfynodd rhai o aelodau Clwb Shwanc, sef clwb ieuenctid Eglwys y Santes Fair, yr hoffen nhw gysgu dros nos yn yr eglwys i gloi gweithgareddau tymor yr haf. Felly, ar ôl noson o chwarae gêmau ym mharc y castell, daethon nhw’n ôl i gysgu yng nghefn yr eglwys, gyda dwy o’r arweinwyr yn cysgu ar lawr y gangell!

Cysgu

Ac fe gafwyd noson werth chweil, gyda phawb wedi tawelu yn fuan ar ôl hanner nos, chwarae teg iddyn nhw! Mwynhaodd pawb y profiad, ac roedd sawl un yn dweud ei bod yn dangnefeddus yno. Roedd hi hefyd yn hyfryd gweld haul cynnar y bore yn disgeirio trwy’r ffenest liw.

Brecwast yn y bore

Ar ôl codi, cafwyd brecwast mewn steil yng nghefn yr eglwys cyn i bawb ffarwelio a mynd ymlaen i’w weithgareddau bore dydd Sadwrn. Cytunodd pawb y byddai’n dda gwneud hyn eto yr haf nesa!

Am fwy o wybodaeth am Clwb Shwanc, cysylltwch â Gwenda Wallace ar 01970 880817, 07980 350949 neu trwy e-bost. Mae croeso cynnes i unrhyw un rhwng 11-18 oed ymuno â’r clwb. Rydym yn cynnal amrywiaeth o weithgareddau, ac yn arbennig o hoff o chwarae gêmau o bob math!