Croesawu myfyrwyr y Cwrs Haf Cymraeg 2009-08-12
Yn ail wythnos mis Awst fe drefnwyd noson groeso ar gyfer myfyrwyr y Cwrs Haf Aberystwyth yn Eglwys y Santes Fair. Cwrs Cymraeg sy’n para am bedair wythnos trwy fis Awst yw’r Cwrs Haf ac mae dros hanner cant o fyfyrwyr yn mynychu’r cwrs. Gan bod Eglwys y Santes Fair yn gweld bod ganddi genhadaeth arbennig tuag at y rhai sy’n dysgu Cymraeg roedd hi’n addas ei bod yn rhoi croeso i’r myfyrwyr.
Croesawyd y myfyrwyr i’r eglwys gan yr aelodau ac yn arbennig gan reithor y plwyf, y Canon Stuart Bell. Fe atgoffodd e bawb ei fod yntau wedi dysgu Cymraeg ac yn un o’r myfyrwyr ar y cwrs haf cyntaf, a oedd yn cael ei alw yn Gwrs Wlpan y pryd hynny.

Yn ystod y noson cafwyd cyfle i glywed ychydig am hanes Eglwys y Santes Fair a sefydlwyd yn yr 1860au yn unswydd er mwyn gwasanaethu’r siaradwyr Cymraeg plwyf Aberystwyth. Fe gysegrwyd yr adeilad yn 1873 gan Esgob Tyddewi, Connop Thirwall. Roedd e’n Sais o Lundain, ond roedd wedi dysgu Cymraeg yn ddigon da i bregethu yn eglwysi’r esgobaeth.
Fe rannodd dysgwr sydd bellach yn gweithio fel pennaeth ysgol gynradd leol rhai o’r brofiadau yntau wrth ddysgu Cymraeg ac fe gafwyd datganiad ar y delyn deires gan un o’r aelodau. Cafwyd cyfle hefyd i ganu dau o emynau gydag esboniad o’u cynnwys.

Wedi’r darn ffurfiol cafodd pawb gyfle i gymdeithasu dros baned o goffi a phwdin. Roedd hyn yn gyfle gwych i’r myfyrwyr ymarfer rhai o’r sgiliau siarad yr oeddent wedi’u hennill yn ystod wythnos gyntaf y cwrs.
Roedd hi’n hyfryd gweld cymaint o’r myfyrwyr wedi derbyn y gwahoddiad a’r gobaith yw medru croesawu myfyrwyr cwrs haf y flwyddyn nesaf yn yr un ffordd.