Dathliadau’r cynhaeaf yn Eglwys y Santes Fair 2009-10-03
DATHLIADAU’R CYNHAEAF YN EGLWYS Y SANTES FAIR
DYDD SADWRN 10 HYDREF
6.00: Swper y cynhaeaf yn Neuadd y Plwyf
[mynediad trwy tocyn - £4]
DYDD SUL 11 HYDREF
10.00: Cymun y Cynhaeaf i’r teulu cyfan
Pregethir gan Lyn Lewis Dafis
Cwpanaid i ddilyn
6.00: Mawl y Cynhaeaf
Pregethir gan y Parchedig John Gillebrand, Llangeler a Phenboyr [...]
Neges y Rheithor ar gyfer Gŵyl Diolchgarwch am y Cynhaeaf 2009-10-03
Annwyl Gyfeillion
Dyna ichi fyd yr ydym yn byw ynddo! Nid yw byth yn peidio i’n syfrdanu. Wrth edrych arno fe’n llenwir â rhyfeddod. Perffaith ei gydbwysedd. Ysblennydd ei wneuthuriad. Cadarn ac eto yn fregus iawn.
Yr ydym yn dibynnu’n llwyr ar chwe modfedd o bridd ar ei wyneb. Hebddo byddai wedi bod ar ben [...]