Neges y Rheithor ar gyfer Gŵyl Diolchgarwch am y Cynhaeaf 2009-10-03
Annwyl Gyfeillion
Dyna ichi fyd yr ydym yn byw ynddo! Nid yw byth yn peidio i’n syfrdanu. Wrth edrych arno fe’n llenwir â rhyfeddod. Perffaith ei gydbwysedd. Ysblennydd ei wneuthuriad. Cadarn ac eto yn fregus iawn.
Yr ydym yn dibynnu’n llwyr ar chwe modfedd o bridd ar ei wyneb. Hebddo byddai wedi bod ar ben arnom erstalwm. Gall y pridd hwnnw dyfu amrywiaeth o bethau nad oes modd eu rhifo ac mae rhywogaethau newydd yn cael eu darganfod yn gyson. Ond er bod gennym bridd dwfn a ffrwythlon heb yr haul ni fyddai’r un cnwd yn tyfu. Mae’r haul wedi’i osod y pellter iawn oddi wrthym fel nad ydym yn llosgi nac yn rhewi chwaith. Eto i gyd mae’n mynd yn llai o ryw 8 milltir y flwyddyn. Diolch byth fod cymaint ohono ar ôl.
Dyna ichi fyd! O ble y daeth a pham ei fod yma? Dyna’r dadleuon mawr sydd wedi parhau trwy hanes y ddynoliaeth. Mae’r Beibl yn rhoi atebion penodol. Duw yw ffynhonnell gyntaf pob dim. Felly yr ydym ni yn bodoli oherwydd ei fod ef yn bodoli. Hyd yn oed wedyn nid ydym yn bodoli mewn gwacter. Yr ydym yn bodoli er mwyn ei adnabod ef.
Dyma’r hyn yr ydym yn mynd i’w ddathlu yn ein g?yl ddiolchgarwch eleni. Byd sydd yn ddigon cyfoethog i’n cynnal ni i gyd, a Duw sy’n cynnig ei hun i ni nid yn unig fel un sy’n darparu ond hefyd fel cyfaill ac Arglwydd.
Fe arwydd o’n diolchgarwch i Dduw am ei ddaioni byddwn yn rhoi casgliadau’r cynhaeaf i ffwrdd fel yr ydym wedi’i wneud ers blynyddoedd bellach. Bydd Anna Huws yn mynd i weithio fel gweithiwr cymdeithasol yn Utra Pradesh yn India ac byddwn yn anfon y cyfan sy’n cael ei roi ddydd Sul nesaf ati hi.
Ymunwch gyda ni a dewch â chyfaill neu ddau neu dri.
Pob bendith,
Stuart