Dathliadau’r cynhaeaf yn Eglwys y Santes Fair 2009-10-03

DATHLIADAU’R CYNHAEAF YN EGLWYS Y SANTES FAIR
DYDD SADWRN 10 HYDREF
6.00: Swper y cynhaeaf yn Neuadd y Plwyf
[mynediad trwy tocyn - £4]
DYDD SUL 11 HYDREF
10.00: Cymun y Cynhaeaf i’r teulu cyfan
Pregethir gan Lyn Lewis Dafis
Cwpanaid i ddilyn
6.00: Mawl y Cynhaeaf
Pregethir gan y Parchedig John Gillebrand, Llangeler a Phenboyr [...]

Neges y Rheithor ar gyfer Gŵyl Diolchgarwch am y Cynhaeaf 2009-10-03

Annwyl Gyfeillion
Dyna ichi fyd yr ydym yn byw ynddo! Nid yw byth yn peidio i’n syfrdanu. Wrth edrych arno fe’n llenwir â rhyfeddod. Perffaith ei gydbwysedd. Ysblennydd ei wneuthuriad. Cadarn ac eto yn fregus iawn.
Yr ydym yn dibynnu’n llwyr ar chwe modfedd o bridd ar ei wyneb. Hebddo byddai wedi bod ar ben [...]

Croesawu myfyrwyr y Cwrs Haf Cymraeg 2009-08-12

Yn ail wythnos mis Awst fe drefnwyd noson groeso ar gyfer myfyrwyr y Cwrs Haf Aberystwyth yn Eglwys y Santes Fair. Cwrs Cymraeg sy’n para am bedair wythnos trwy fis Awst yw’r Cwrs Haf ac mae dros hanner cant o fyfyrwyr yn mynychu’r cwrs. Gan bod Eglwys y Santes Fair yn gweld bod ganddi genhadaeth [...]

Aelodau Clwb Shwanc yn aros y noson yn yr eglwys! 2009-07-25

Penderfynodd rhai o aelodau Clwb Shwanc, sef clwb ieuenctid Eglwys y Santes Fair, yr hoffen nhw gysgu dros nos yn yr eglwys i gloi gweithgareddau tymor yr haf. Felly, ar ôl noson o chwarae gêmau ym mharc y castell, daethon nhw’n ôl i gysgu yng nghefn yr eglwys, gyda dwy o’r arweinwyr yn cysgu ar [...]

Cyflwyno llyfrau gwasanaeth 2009-07-14

Yn ddiweddar cyflwynwyd llyfrau gwasanaeth newydd at ddefnydd yn Eglwys y Santes Fair gan Miss Menna Phillips. Cyflwynodd gopi o lyfr Gwasanaeth y Cymun Bendigaid 2004 at wasanaeth y Bwrdd Sanctaidd ynghyd â’r Calendr newydd a’r colectau. Dros y blynyddoedd diwethaf mae’r Eglwys yng Nghymru wedi mabwysiadu calendr newydd ynghyd a ffurf newydd ar wasanaeth [...]

Ymweliad Bill Roberts 2009-06-21

Ddydd Sul, 21 Mehefin, cawsom ymwelydd arbennig ag Eglwys y Santes Fair, sef y Parchedig Bill Roberts, rheithor Eglwys Esgobol S. Gregory yn Deerfield, Illinois, y Taleithiau Unedig. Bu Bill ym mhob un o wasanaethau’r Sul yn Eglwys S. Mair am ei fod am weld sut roedden ni yn ‘gwneud pethau’.
Mae Bill Roberts ar gyfnod [...]

Esgob Tyddewi yn ymweld ag Eglwys y Santes Fair 2009-05-10

Roedd bore Sul 10 Mai yn ddiwrnod arbennig yn hanes Eglwys y Santes Fair wrth inni groesawu y Gwir Barchedig Wyn Evans, Esgob Tyddewi i bregethu a gweinyddu yng ngwasanaeth y Cymun Bendigaid. Bu tad yr esgob, yr Hybarch Eifion Evans, yn ficer ar Eglwys S. Mair rhwng 1957 ac 1967, ac yn ystod y [...]

Encil 2009

Ar Ebrill 25 cynhaliwyd encil flynyddol eglwys S. Mair, Aberystwyth, dan ofal y Parchedig Hywel Edwards, un o arweinwyr eglwys Antioch, Bae Colwyn. Fel arfer cynhaliwyd yr encil ym Mhlas Dolau, tua dwy filltir o Aberystwyth, yn ddigon agos i fod yn gyfleus ond yn ddigon pell inni allu anghofio am bwysau gwaith a phroblemau [...]

Llwyddiant Tim!

Ym mis Tachwedd 2008, rhoddodd Timothy Ansell o Eglwys y Santes Fair, Aberystwyth gynnig ar gystadleuaeth i ddylunio logo i’r elusen Gwirvol, sef partneriaeth Gymreig sy’n hyrwyddo a chefnogi gwaith gwirfoddol gan bobl ifanc. Enillodd Tim y wobr gyntaf yn y gystadleuaeth, sef £200 iddo ef ei hun a £300 ar gyfer cymdeithas neu fudiad [...]

Gwasanaethau’r Pasg a’r Wythnos Fawr 2009

Dyma grynodeb o wasanaethau’r Pasg a’r Wythnos Fawr yn Eglwys y Santes Fair a phlwyf Aberystwyth.
Thema’r wythnos: Y cymylau yn crynhoi
Dydd Llun 6ed Ebrill
7.00: Eglwys Llanychaearn
Dydd Mawrth 7fed Ebrill
7.00: Eglwys y Santes Ann, Penparcau
Dydd Mercher 8fed Ebrill
7.00: Eglwys y Santes Fair
Dydd Iau Cablyd 9fed Ebrill
7.00: Capel Dewi [...]

cynharach »