Cristnogaeth
Ble mae’n bosib dod o hyd i obaith mewn byd sydd wedi mynd o’i le?
Mae pobol yn edrych mewn llawer o wahanol lefydd heddiw:profiadau cyffrous o bob math, gwyddoniaeth, gwleidyddiaeth – hyd yn oed mewn siopa!
Ond yn y pendraw ni fydd yr un o’r pethau yma yn ateb ein hanghenion dyfnaf. Maent i gyd yn syrthio’n brin mewn rhyw fodd neu’i gilydd am nad ydynt yn medru cynnig atebion i gwestiynau sylfaenol bywyd: Beth ydw i’n ei wneud yma? Beth sy’n digwydd pan fydda i’n marw? Oes ‘na Dduw yn bod? All bywyd fod yn wahanol?
Ychydig dros ddwy fil o flynyddoed yn ôl ganwyd rhywun oedd yn medru ateb y cwestiynau hyn i gyd a’n hanghenion dyfnaf ni: Iesu. Bu fyw bywyd perffaith. Fe ddysgodd bobol yn y fath fodd fel eu bod yn dweud ‘nid oes neb erioed wedi dysgu fel mae’r dyn hwn yn ei wneud’. Bu farw mewn ffordd ddychrynllyd, gan gymryd arno ef ei hun holl feichiau byd oedd wedi mynd o’i le. Ac fe atgyfododd i fywyd newydd, bywyd y mae’n ei rannu gyda phobl ym mhob man.
Pwrpas yr eglwys yw eich cyflwyno i’r dyn hwn.
Fe wnaeth newid bywydau pobl ddwy fil o flynyddoedd yn ôl, ac y mae’n dal i newid bywydau heddiw.
Gobaith i fyd sydd wedi mynd o’i le? Does dim angen inni chwilio mewn unrhyw le arall, oherwydd Iesu yw’r gobaith ar gyfer ein byd.
Dywedodd Iesu, “Myfi yw’r ffordd y gwirionedd a’r bywyd. Nid oes neb yn dod at y Tad ond trwof fi.” (Ioan 14.6)
Os hoffech chi fwy o wybodaeth cysylltwch gyda ni yn Eglwys y Santes Fair, neu ewch i’r wefan re:Jesus.
Seiliwyd ar ddeunydd o wefan Eglwys S Pedr, Caerfyrddin.