Beth rydyn ni yn ei gredu?
Perthynas
Calon ein bywyd o ffydd fel Eglwys ac fel unigolion yw ein perthynas gyda Duw sydd wedi dangos sut un ydyw a maint ei gariad tuag atom yn Iesu Grist. Yn y Beibl, a roddwyd i ni trwy’r Ysbryd Glân, yr ydym yn darllen hanes Duw yn datguddio ei hun trwy ei bobl Israel ac yn bennaf oll yn ei Fab. Ymateb i Dduw yn datguddio ei gariad a’i drugaredd wrth ymddired ynddo yw’r cam cyntaf ar daith ffydd. Eto i gyd mae’n bwysig dweud nad ffeithiau yw calon ein ffydd, yn hytrach y ffeithiau yw’r rheswm dros ymddiried, neu roi ein ffydd yn Nuw, a’r ymddiried hynny yw dechrau ein perthynas ag ef.
Ond mae ein ffydd yn cychwyn nid gyda ni ond gyda Duw, ac yntau yn dod yn ddyn er ein mwyn ni. Dyna fyddwn ni yn ei ddathlu yn nhymor y Nadolig.
Danfonodd y Tad ei Fab, ac fe ddaeth yn ddyn, er mwyn cymodi’r byd ag ef ei hun. Bu farw ar y groes dros ein pechodau; atgyfodwyd ef mewn buddugoliaeth ar angau a’i ddyrchafu i orsedd Duw fel yr un sy’n eiriol trosom. Dyna fyddwn yn ei ddathlu yn nhymor y Pasg.
Addawodd y Mab anfon yr Ysbryd Glân i ddod â bywyd. Wrth droi oddi wrth ein pechodau a chredu yn Iesu Grist daw yr Ysbryd i fyw ynom. Ei bresenoldeb ef yn ein bywydau ni, ac ym mywyd yr eglwys, sydd yn ein galluogi i ddilyn Iesu ac i dyfu’n debyg iddo. Dyna fyddwn yn ei ddathlu yn nhymor y Pentecost.
Mae’n perthynas â Duw yn esgor ar berthynas newydd gydag eraill wrth inni ddod yn gyd-aelodau o gorff Crist, sef yr Eglwys. Yr ydym yn ymateb i gariad Duw mewn addoliad yn nheulu’r Eglwys trwy weddi, darllen ei Air sanctaidd, a thrwy sacrament y bedydd sanctaidd a’r cymun bendigaid. Yr ydym yn ymateb hefyd trwy ei arddel yn Arglwydd ar ein bywydau a gweithio er ei anrhydedd a’i ogoniant.