-->

Pwy ydyn ni?

Wedi'r gwasanaethEglwys y Santes Fair yw cynulleidfa Gymraeg plwyf Aberystwyth. Mae plwyf Aberystwyth yn cynnwys y dref ei hun, Penparcau a phentref Llanfarian (Llanychaearn) ac mae pedair eglwys arall yn y plwyf: Eglwys S. Mihangel a Eglwys y Drindod yn Aberystwyth, Eglwys S. Anne ym Mhenparcau, ac Eglwys S. Llwchaearn ger Llanfarian. Gwasanaethau Saesneg a gynhelir yn yr eglwysi hyn i gyd.

Mae’r plwyf yn rhan o Esgobaeth Tyddewi, sydd yn ei thro yn rhan o’r Eglwys yng Nghymru. Rydym felly yn perthyn i deulu’r Cymundeb Anglicanaidd o eglwysi ar draws y byd.

Cynhelir holl weithgaredd Eglwys y Santes Fair yn Gymraeg a chredwn ei bod wedi’n galw i weinidogaethau i siaradwyr brodorol a dysgwyr fel ei gilydd. Ar hyn o bryd y mae rhyw 30-40 o oedolion a rhyw 15-20 o blant a phobol ifainc yn rhan o deulu’r eglwys.

Mae dau weinidog llawn amser yn rhannu eu hamser rhwng Eglwys y Santes Fair ac Eglwys S. Mihangel: rheithor y plwyf, sef y Parchg Ganon Stuart Bell, a’r ficer, y Parchg Andy Herrick. Yn ogystal mae Ann McKnight yn gweithio fel cynorthwyydd bugeiliol gwirfoddol rhan-amser.

Gwneud y coffiOnd nid hwy sy’n gwneud y gwaith i gyd yn Eglwys y Santes Fair. Ceir pob math o weithwyr eraill: darllenwyr (pregethwyr) lleyg, darllenwyr llithoedd, glanhawyr, rhai sy’n gwneud coffi, organyddion, aelodau’r gr?p cerdd, arweinwyr gweddïau, trysorydd, rhai sy’n gosod blodau. Fel hyn y disgrifiodd yr apostol Paul y peth yn ei lythyr at Gristnogion Corinth: “Mae gwahanol ddoniau, ond yr un Ysbryd sy’n rhoi pob un. Mae ffyrdd gwahanol o wasanaethu, ond dim ond un Arglwydd sydd. Mae Duw yn gweithio mewn ffyrdd gwahanol drwy wahanol bobl, ond yr un Duw sy’n cyflawni’r cwbl ynddyn nhw i gyd. Ac mae’r Ysbryd i’w weld yn gweithio ym mywyd pob unigolyn er lles pawb arall.” (1 Corinthiaid 12.4-7, allan o beibl.net)