Ble mae Eglwys y Santes Fair?
Mae Eglwys y Santes Fair yn sefyll yn Y Lôn Gefn (neu Gray’s Inn Road) yn Aberystwyth. Ond fel arfer nid oes neb yn sylwi arni gan ei bod wedi’i chuddio y tu ôl i dai mewn sgwâr bach tawel ar ei phen ei hun. I ddweud y gwir mae’n haws gweld yr eglwys o Benglais nag yw hi o Heol y Bont! Os ydych chi’n cael trafferth dod o hyd iddi yna fe allwch ddilyn y map isod.