Mair, mam ein Harglwydd
Enw Mair, mam ein Harglwydd a’n Gwaredwr Iesu Grist, sydd ar Eglwys S. Mair.
Ym mhob gwasanaeth o’r Hwyrol Weddi, byddwn yn canu cân mawl Mair sy’n cael ei hadnabod fel Magnificat, ar ôl y gair agoriadol mewn Lladin. Luc, un o ddilynwyr cynnar Iesu, sy’n cofnodi’r gân o fawl yma. Wrth adrodd hanes bywyd ein Harglwydd er mwyn eraill gredu ynddo, mae’n cofnodi beth oedd amgylchiadau ei enedigaeth. Wedi i Mair ddeall ei bod yn feichiog ymwelodd â’i chyfnither Elisabeth, ac yn ei chartref hi y mae’n rhoi mynegiant i’w hymddiriediaeth lwyr yn Nuw, ei Gwaredwr, yng ngeiriau’r gân hon.
Wrth enwi’r eglwys ar ei hôl rydym yn gosod ffydd ac ufudd-dod Mair fel esiampl inni ddilyn yn ein bywydau Cristnogol ninnau.
MAGNIFICAT - cân mawl Mair
“Y mae fy enaid yn mawrygu yr Arglwydd,
a gorfoleddodd fy ysbryd yn Nuw, fy ngwaredwr,
am iddo ystyried distadledd ei lawforwyn.
Oherwydd wele, o hyn allan
fe’m gelwir yn wynfydedig gan yr holl genedlaethau,
oherwydd gwnaeth yr hwn sydd nerthol bethau mawr i mi,
a sanctaidd yw ei enw ef;
y mae ei drugaredd o genhedlaeth i genhedlaeth
i’r rhai sydd yn ei ofni ef.
Gwnaeth rymuster â’i fraich,
gwasgarodd ddynion balch eu calon;
tynnodd dywysogion oddi ar eu gorseddau,
a dyrchafodd y rhai distadl;
llwythodd y newynog â rhoddion,
ac anfonodd y cyfoethogion ymaith yn waglaw.
Cynorthwyodd ef Israel ei was,
gan ddwyn i’w gof ei drugaredd
fel y llefarodd wrth ein tadau –
ei drugaredd wrth Abraham a’i had yn dragywydd.”
Luc 1.46-55